Orbito cyn glanio.

Dewch yn nes yn eich amser eich hun.

Dychwelyd i Orbit yr Eglwys

Orbitio cyn glanio. Mae’r eglwys yn fwy na dydd Sul—mae’n gymuned, cysylltiad a chwilfrydedd.

Dewch yn nes yn eich amser eich hun.

Mewn byd lle mae chwilfrydedd ysbrydol yn aml yn cael ei guddio gan gymhlethdod a phryder, rydym yn ail-ddychmygu sut y gall pobl—yn enwedig pobl ifanc—ailgysylltu â’r eglwys. Rydym yn siarad am ddychwelyd i ‘orbit yr eglwys’, lle y gall unigolion ddod yn agos at ffydd, cymuned a phwrpas heb bwysau nac ofn ymrwymiad.

Mae'r orbit hwn yn cynnwys gweithgareddau cymunedol, digwyddiadau ieuenctid, prydau a rennir, cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, erthyglau ystyriol, a phrosiectau sy’n cyfoethogi bywyd bob dydd. Mae’n ofod pwrpasol drwy ein gwaith yng Nghanolfan Gymunedol Hebron a’n llwyfannau digidol—yn cwrdd â phobl lle maent, ac yn eu gwahodd i gysylltu’n ystyrlon. Yn yr orbit hwn, nid yw ffydd yn cael ei orfodi, ond yn cael ei gynnig yn dyner, yn greadigol, ac ffyrdd sy’n addas i bawb.

Wrth i hyder a chwilfrydedd dyfu, efallai y bydd rhai’n dewis dod yn agosach ac i ‘lanio’ ym mywyd ysbrydol yr eglwys trwy addoli, dysgu neu fyfyrdod dyfnach. Bydd rhai wedi glanio naill ai’n sefyll neu yn mynd yn ôl i orbito unwaith eto. Bydd eraill yn dewis aros yn yr orbit, neu hyd yn oed chwilio am ‘blaned eglwys’ arall sy’n fwy addas iddynt. Ac mae hynny’n iawn. Mae’r model hwn yn parchu taith pob unigolyn, ac yn sicrhau bod yr eglwys yn weladwy, croesawgar, ac yn ganolbwynt cryf o obaith a ffydd y gall bywyd gylchdroi o’i chwmpas yn ddiogel.

Rydym yn gwahodd pawb—hen ac ifanc, yn ansicr neu'n chwilio—i archwilio’r orbit Capel Seion. P’un ai drwy ddigwyddiad lleol, sgwrs gyfeillgar neu bost ar Instagram, mae croeso yma i ailgysylltu â chymuned lle rydych yn perthyn, ac mae bywyd ysbrydol yn aros i gael ei ail-ddarganfod yn dyner ac yn onest.